Dyma gyfrol a ddylai fod yn boblogaidd iawn mewn ysgolion. Mae anifeiliaid yn ddeniadol, ond ychwaneger y gair 'peryglus' a bydd llawer iawn o fodio ar y gyfrol. Addasiad o gyfrol Saesneg gan Steve Parker yw hon, ac y mae Bethan Mair wedi defnyddio geirfa syml ac addas wrth gyfieithu. Mae yma ryw ddau ddwsin o anifeiliaid yn cael sylw, a phob un yn cael tudalen gyfan. Ceir lluniau dramatig o'r creaduriaid, un 'ffaith ffyrnig' am bob anifail ynghyd pharagraff byr yn disgrifio sut mae'r anifail yn byw ac yn hela. Yng nghornel pob tudalen ceir 'sgr' i bob anifail. Efallai fod hyn yn gamarweiniol oherwydd mewn gwirionedd ceir tair ffaith: maint, cyflymder a sgr hela hynny yw un, elfen yn unig yw'r sgr. Dyma gyfrol oedd yn agoriad llygaid i mi. Dywedir, er engraifft, mai'r anifail mwyaf peryglus a mwyaf effeithiol yn lladd ei brae ydi sglefren fr bocs. Gall gwenwyn y sglefren ladd person mewn cyn lleied phedwar munud. Ond rhag i rywun feddwl bod llew neu lewpart neu arth yn agos at fod mor effeithiol 'r anifeiliad bychain, anifail bach arall sydd yn ail o ran sgr perygl yw'r mantis gweddol. Gall y mantis ddal ei ysglyfaeth yn hanner yr amser mae'n ei gymryd i berson gau ac agor ei lygaid. Mae hon yn gyfrol hardd, ddeniadol fydd yn cipio dychymyg plant ac yn rhoi gwybodaeth ddifyr iawn iddynt. Mi all y gyfrol arwain at gwestiynau cwis diddorol ac amrywiol. Dyma enghraifft: Mewn sawl eiliad gall llewpart hela gyrraedd cyflymder o chwe deg milltir yr awr? Yr ateb tair eiliad yn unig, waw! Porwch drwy'r gyfrol hon am ragor o ffeithiau rhyfeddol. Chewch chi mo'ch siomi. John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |